Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dydd Mawrth 22 Ionawr a dydd Mercher 23 Ionawr 2013

Dydd Mawrth 29 Ionawr a dydd Mercher 30 Ionawr 2013

Dydd Mawrth 5 Chwefror a dydd Mercher 6 Chwefror 2013

***********************************************************************

 

Dydd Mawrth 22 Ionawr 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar:  Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddarparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter (30 munud)

·         Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012 (15 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) (60 munud)

“Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru). "

·         Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn (60 munud)

 

Dydd Mercher 23 Ionawr 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Brentisiaethau yng Nghymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl fer - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 29 Ionawr 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)  (60 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen TB mewn Gwartheg (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Ymateb y Llywodraeth i'r Adolygiad o Gymwysterau 14-19 (30 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Darpariaethau i'w gwneud yn ofynnol i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ddarparu data electronig i gwsmeriaid (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Diddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Cymru a Lloegr (15 munud)

·         Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2013 (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus (15 munud)

 

Dydd Mercher 30 Ionawr 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Uwch-gynghrair Cymru (60 munud)

·         Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ar Ofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) (Mark Isherwood) (60 munud)

·         Dadl Fer – Leanne Wood (Canol De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 5 Chwefror 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

·         Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:  Gwneud gwahaniaeth: Rôl amgueddfeydd, archifau  a llyfrgelloedd o ran mynd i'r afael â thlodi plant (30 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Twf a Seilwaith - Caniatâd Cynllunio Tybiedig ar gyfer cydsyniadau i gynhyrchu (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Twf a Seilwaith - Diwygiadau i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (15 munud)

 

Dydd Mercher 6 Chwefror 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Awdurdodaeth ar Wahân i Gymru (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Losgi Gwastraff (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer – Nick Ramsay (Sir Fynwy) (30 munud)